Eseia 14:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd,“Fel y cynlluniais y bydd,ac fel y bwriedais y digwydd;

25. drylliaf Asyria yn fy nhir,mathraf hi ar fy mynyddoedd;symudir ei hiau oddi arnata'i phwn oddi ar dy gefn.

26. Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear,a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd.

27. Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd;pwy a'i diddyma?Ei law ef a estynnwyd;pwy a'i try'n ôl?”

Eseia 14