Eseia 14:20-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ni chei dy gladdu mewn bedd fel hwy,oherwydd difethaist dy dir a lleddaist dy bobl.Nac enwer byth mwy hil yr annuwiol;

21. darparwch laddfa i'w blant,oherwydd drygioni eu hynafiaid,rhag iddynt godi ac etifeddu'r tira gorchuddio'r byd â dinasoedd.

22. “Codaf yn eu herbyn,”medd ARGLWYDD y Lluoedd,“a dinistrio enw Babilon a'r gweddill sydd ynddi,yn blant a phlant i blant,”medd yr ARGLWYDD.

23. “A gwnaf hi'n gynefin i aderyn y bwn,yn gors ddiffaith,ac ysgubaf hi ag ysgubell distryw,”medd ARGLWYDD y Lluoedd.

24. Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd,“Fel y cynlluniais y bydd,ac fel y bwriedais y digwydd;

25. drylliaf Asyria yn fy nhir,mathraf hi ar fy mynyddoedd;symudir ei hiau oddi arnata'i phwn oddi ar dy gefn.

26. Hwn yw'r cynllun a drefnwyd i'r holl ddaear,a hon yw'r llaw a estynnwyd dros yr holl genhedloedd.

27. Oherwydd ARGLWYDD y Lluoedd a gynlluniodd;pwy a'i diddyma?Ei law ef a estynnwyd;pwy a'i try'n ôl?”

28. Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Ahas daeth yr oracl hwn:

29. Paid â llawenychu, Philistia gyfan,am dorri'r wialen a'th drawodd;oherwydd o wreiddyn y sarff fe gyfyd gwiber,a bydd ei hepil yn sarff wenwynig wibiog.

Eseia 14