6. Fe drig y blaidd gyda'r oen,fe orwedd y llewpard gyda'r myn;bydd y llo a'r llew yn cydbori,a bachgen bychan yn eu harwain.
7. Bydd y fuwch yn pori gyda'r arth,a'u llydnod yn cydorwedd;bydd y llew yn bwyta gwair fel ych.
8. Bydd plentyn sugno yn chwarae wrth dwll yr asb,a baban yn estyn ei law dros ffau'r wiber.
9. Ni wnânt ddrwg na difrodyn fy holl fynydd sanctaidd,canys fel y lleinw'r dyfroedd y môr i'w ymylon,felly y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD.
10. Ac yn y dydd hwnnwbydd gwreiddyn Jesse yn sefyll fel baner i'r bobloedd;bydd y cenhedloedd yn ymofyn ag ef,a bydd ei drigfan yn ogoneddus.
11. Ac yn y dydd hwnnwfe estyn yr ARGLWYDD ei law drachefni adennill gweddill ei bobla adewir, o Asyria a'r Aifft,o Pathros ac Ethiopia ac Elam,o Sinar a Hamath ac o ynysoedd y môr.
12. Fe gyfyd faner i'r cenhedloedd,a chasglu alltudion Israel;fe gynnull rai gwasgar Jwdao bedwar ban y byd.
13. Diflanna cenfigen Effraim,a thorrir ymaith elynion Jwda.Ni chenfigenna Effraim wrth Jwda,ac ni fydd Jwda'n gwrthwynebu Effraim.