Eseia 10:27-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Yn y dydd hwnnwsymudir ei faich oddi ar dy ysgwydd,a dryllio'i iau oddi ar dy war.Esgynnodd o Rimmon,

28. daeth at Aiath,tramwyodd drwy Migron,rhoddodd ei gelfi i'w cadw yn Michmas;

29. aethant dros Maabaraac aros dros nos yn Geba.Dychrynodd Rama, arswydodd Gibea Saul.

30. Bloeddia'n groch, Bath-galim;gwrando arni, Lais; ateb hi, Anathoth.

31. Y mae Madmena ar ffo,a phobl Gebim yn chwilio am nodded.

32. Heddiw y mae'n sefyll yn Nob,ac yn cau ei ddwrn yn erbyn mynydd merch Seion,bryn Jerwsalem.

Eseia 10