Eseia 10:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Canys bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn gwneud dinistr terfynolyng nghanol yr holl ddaear.

24. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: “Fy mhobl, sy'n preswylio yn Seion, paid ag ofni rhag yr Asyriaid, er iddynt dy guro â gwialen, a chodi eu ffon yn dy erbyn fel y gwnaeth yr Eifftiaid.

25. Canys ymhen ychydig bach fe dderfydd fy llid, a bydd fy nigofaint yn troi i'w difetha hwy.

26. A bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ysgwyd chwip yn eu herbyn, fel y gwnaeth yn lladdfa Midian wrth garreg Oreb, ac yn codi ei wialen dros y môr fel y cododd hi dros yr Aifft.”

Eseia 10