Eseia 10:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Canys, er i'th bobl Israel fod fel tywod y môr,gweddill yn unig fydd yn dychwel.Cyhoeddwyd dinistr, yn gorlifo mewn cyfiawnder.

23. Canys bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn gwneud dinistr terfynolyng nghanol yr holl ddaear.

24. Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: “Fy mhobl, sy'n preswylio yn Seion, paid ag ofni rhag yr Asyriaid, er iddynt dy guro â gwialen, a chodi eu ffon yn dy erbyn fel y gwnaeth yr Eifftiaid.

25. Canys ymhen ychydig bach fe dderfydd fy llid, a bydd fy nigofaint yn troi i'w difetha hwy.

26. A bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ysgwyd chwip yn eu herbyn, fel y gwnaeth yn lladdfa Midian wrth garreg Oreb, ac yn codi ei wialen dros y môr fel y cododd hi dros yr Aifft.”

27. Yn y dydd hwnnwsymudir ei faich oddi ar dy ysgwydd,a dryllio'i iau oddi ar dy war.Esgynnodd o Rimmon,

28. daeth at Aiath,tramwyodd drwy Migron,rhoddodd ei gelfi i'w cadw yn Michmas;

29. aethant dros Maabaraac aros dros nos yn Geba.Dychrynodd Rama, arswydodd Gibea Saul.

30. Bloeddia'n groch, Bath-galim;gwrando arni, Lais; ateb hi, Anathoth.

Eseia 10