Eseia 10:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Cefais hyd i gyfoeth y bobl fel nyth;ac fel y bydd dyn yn casglu wyau wedi eu gadael,felly y cesglais innau bob gwlad ynghyd;nid oedd adain yn symudna phig yn agor i glochdar.”

15. A ymffrostia'r fwyell yn erbyn y cymynwr?A ymfawryga'r llif yn erbyn yr hwn a'i tyn?Fel pe bai gwialen yn ysgwyd yr un sy'n ei chwifio,neu ffon yn trin un nad yw'n bren!

16. Am hynny bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd,yn anfon clefyd i nychu ei ryfelwyr praff,a than ei ogoniant fe gyfyd twymynfel llosgiad tân.

Eseia 10