Eseia 10:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. ac fel y gwneuthum i Samaria ac i'w delwau hi,oni wnaf felly hefyd i Jerwsalem a'i heilunod?”

12. Pan orffen yr ARGLWYDD ei holl waith ar Fynydd Seion a Jerwsalem, fe gosba ymffrost trahaus brenin Asyria a hunanhyder ei ysbryd am iddo ddweud,

13. “Yn fy nerth fy hun y gwneuthum hyn,a thrwy fy noethineb, pan oeddwn yn cynllunio.Symudais ffiniau cenhedloedd,ysbeiliais eu trysorau;fel tarw bwriais i lawr y trigolion.

14. Cefais hyd i gyfoeth y bobl fel nyth;ac fel y bydd dyn yn casglu wyau wedi eu gadael,felly y cesglais innau bob gwlad ynghyd;nid oedd adain yn symudna phig yn agor i glochdar.”

15. A ymffrostia'r fwyell yn erbyn y cymynwr?A ymfawryga'r llif yn erbyn yr hwn a'i tyn?Fel pe bai gwialen yn ysgwyd yr un sy'n ei chwifio,neu ffon yn trin un nad yw'n bren!

Eseia 10