Eseia 1:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Ond daw dinistr i'r gwrthryfelwyr a'r pechaduriaid ynghyd,a diddymir y rhai a gefna ar Dduw.

29. Bydd arnoch gywilydd o'r deri a oedd yn hoff gennych,a gwridwch dros eich gerddi dethol;

30. byddwch fel coeden dderw a'i dail wedi gwywo,ac fel gardd heb ddŵr ynddi.

31. Bydd y cadarn fel cynnud,a'i orchest fel gwreichionen;fe losgant ill dau ynghyd,ac ni all neb eu diffodd.

Eseia 1