Eseciel 7:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. dof â'r rhai gwaethaf o'r cenhedloedd yno, a byddant yn meddiannu eu tai; rhoddaf derfyn ar falchder y rhai cedyrn, ac fe halogir eu cysegrleoedd.

25. Y mae dychryn ar ddyfod, a byddant yn ceisio heddwch, ond heb ei gael.

26. Daw trallod ar ben trallod, a sibrydion ar ben sibrydion; ceisiant weledigaeth gan y proffwyd, a bydd y gyfraith yn pallu gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.

27. Bydd y brenin mewn galar, a'r tywysog wedi ei wisgo ag arswyd, a bydd dwylo pobl y wlad yn crynu. Gwnaf â hwy yn ôl eu ffyrdd, a barnaf hwy yn ôl eu safonau eu hunain; a chânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Eseciel 7