17. Bydd pob llaw yn llipa a phob glin fel glastwr;
18. byddant yn gwisgo sachliain, ac wedi eu gorchuddio â braw; bydd cywilydd ar bob wyneb a moelni ar bob pen.
19. Taflant eu harian i'r strydoedd, a bydd eu haur fel peth aflan; ni fedr eu harian na'u haur eu gwaredu yn nydd digofaint yr ARGLWYDD; ac ni fedrant ddigoni eu heisiau na llenwi eu stumogau; ond eu camwedd fydd eu cwymp.
20. Yr oeddent yn llawenhau â balchder yn eu tlysau hardd, ac yn eu gwneud yn ddelwau ffiaidd ac atgas; am hynny yr wyf yn eu hystyried yn aflan.
21. Fe'u rhoddaf yn ysbail yn nwylo estroniaid, ac yn anrhaith i rai drygionus y ddaear, a halogir hwy.
22. Trof fy wyneb oddi wrthynt, a halogir fy nhrysor; daw ysbeilwyr i mewn yno a'i halogi a gwneud anrhaith.
23. “ ‘Am fod y wlad yn llawn o dywallt gwaed, a'r ddinas yn llawn o drais,
24. dof â'r rhai gwaethaf o'r cenhedloedd yno, a byddant yn meddiannu eu tai; rhoddaf derfyn ar falchder y rhai cedyrn, ac fe halogir eu cysegrleoedd.
25. Y mae dychryn ar ddyfod, a byddant yn ceisio heddwch, ond heb ei gael.
26. Daw trallod ar ben trallod, a sibrydion ar ben sibrydion; ceisiant weledigaeth gan y proffwyd, a bydd y gyfraith yn pallu gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid.
27. Bydd y brenin mewn galar, a'r tywysog wedi ei wisgo ag arswyd, a bydd dwylo pobl y wlad yn crynu. Gwnaf â hwy yn ôl eu ffyrdd, a barnaf hwy yn ôl eu safonau eu hunain; a chânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”