Eseciel 7:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Tithau, fab dyn, dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth dir Israel: Diwedd! Daeth y diwedd ar bedwar cwr y wlad.

3. Daeth y diwedd yn awr arnat ti, ac anfonaf fy nig arnat; barnaf di yn ôl dy ffyrdd, a thalaf iti am dy holl ffieidd-dra.

4. Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, ac ni fyddaf yn trugarhau, ond talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

5. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Trychineb ar ben trychineb! Y mae'n dod!

6. Daeth diwedd! Daeth y diwedd! Y mae wedi cychwyn yn dy erbyn! Fe ddaeth!

7. Fe ddaeth y farn arnat ti sy'n byw yn y wlad; daeth yr amser, agos yw'r dydd; y mae terfysg, ac nid llawenydd, ar y mynyddoedd.

8. Yn awr, ar fyrder, tywalltaf fy llid arnat a chyflawni fy nig tuag atat; barnaf di yn ôl dy ffyrdd, a thalu iti am dy holl ffieidd-dra.

9. Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, nac yn trugarhau; talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi'r ARGLWYDD sy'n taro.

10. “ ‘Dyma'r dydd! Fe ddaeth! Aeth y farn allan. Blagurodd anghyfiawnder, blodeuodd traha,

11. tyfodd trais yn anghyfiawnder dybryd; ni adewir neb ohonynt, neb o'r dyrfa, na dim o'u cyfoeth na dim o werth.

Eseciel 7