Eseciel 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, tro dy wyneb at fynyddoedd Israel, a phroffwyda wrthynt,

3. a dweud, ‘Fynyddoedd Israel, gwrandewch air yr Arglwydd DDUW. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth y mynyddoedd a'r bryniau, wrth y nentydd a'r dyffrynnoedd: Yr wyf fi'n dod yn eich erbyn â'r cleddyf, a dinistriaf eich uchelfeydd.

4. Anrheithir eich allorau a dryllir eich allorau arogldarth, a thaflaf eich clwyfedigion o flaen eich eilunod.

5. Bwriaf gyrff pobl Israel o flaen eu heilunod, a gwasgaraf eich esgyrn o amgylch eich allorau.

Eseciel 6