Eseciel 48:32-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Ar ochr y dwyrain, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Joseff, porth Benjamin a phorth Dan.

33. Ar ochr y de, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Simeon, porth Issachar a phorth Sabulon.

34. Ar ochr y gorllewin, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Gad, porth Aser a phorth Nafftali.

35. Bydd y pellter o amgylch y ddinas yn ddeunaw mil o gufyddau. Ac enw'r ddinas o'r dydd hwn fydd, ‘Y mae'r ARGLWYDD yno’.”

Eseciel 48