Eseciel 48:21-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. “Bydd y gweddill a adewir oddeutu'r gyfran gysegredig ac eiddo'r ddinas yn perthyn i'r tywysog. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain ar un ochr, ac i'r gorllewin ar yr ochr arall i'r gyfran gysegredig o bum mil ar hugain o gufyddau; bydd yn rhedeg yn gyfochrog â chyfrannau'r llwythau, ac yn perthyn i'r tywysog; bydd y gyfran gysegredig a chysegr y deml yn y canol.

22. Felly bydd eiddo'r Lefiaid ac eiddo'r ddinas yng nghanol eiddo'r tywysog, a bydd eiddo'r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin.

23. “Dyma weddill y llwythau: yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin bydd Benjamin: un gyfran.

24. Ar derfyn Benjamin, o ddwyrain i orllewin, bydd Simeon: un gyfran.

25. Ar derfyn Simeon, o ddwyrain i orllewin, bydd Issachar: un gyfran.

26. Ar derfyn Issachar, o ddwyrain i orllewin, bydd Sabulon: un gyfran.

27. Ar derfyn Sabulon, o ddwyrain i orllewin, bydd Gad: un gyfran.

28. Bydd terfyn de Gad yn rhedeg o Tamar at ddyfroedd Meriba-cades, ac ar hyd yr afon at y Môr Mawr.

29. “Dyma'r tir a roddi'n etifeddiaeth i lwythau Israel, a dyma'u cyfrannau, medd yr Arglwydd DDUW.

30. “Dyma'r ffyrdd allan o'r ddinas: ar ochr y gogledd, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd,

31. fe enwir pyrth y ddinas ar ôl llwythau Israel. Y tri phorth ar ochr y gogledd fydd porth Reuben, porth Jwda a phorth Lefi.

32. Ar ochr y dwyrain, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Joseff, porth Benjamin a phorth Dan.

33. Ar ochr y de, sy'n bedair mil a hanner o gufyddau o hyd, bydd tri phorth, sef porth Simeon, porth Issachar a phorth Sabulon.

Eseciel 48