Eseciel 44:29-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Byddant yn bwyta'r bwydoffrwm, yr aberth dros bechod a'r offrwm dros gamwedd, a'u heiddo hwy fydd pob diofryd yn Israel.

30. Eiddo'r offeiriaid hefyd fydd y gorau o'r holl flaenffrwyth ac o'ch holl offrymau arbennig. Rhowch i'r offeiriaid hefyd y gyfran gyntaf o'ch blawd mâl, er mwyn i fendith fod ar eich tai.

31. Nid yw'r offeiriaid i fwyta dim a fu farw neu a larpiwyd, boed aderyn neu anifail.

Eseciel 44