Eseciel 40:7-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Yr oedd hyd yr ystafelloedd ochr yn un ffon, a'u lled yn un ffon, a'r mur rhwng yr ystafelloedd yn bum cufydd o led; yr oedd rhiniog y porth ger y cyntedd gyferbyn â'r deml yn hyd un ffon.

8. Yna mesurodd gyntedd y porth,

9. ac yr oedd yn wyth cufydd o ddyfnder, a'i bileri yn ddau gufydd o drwch. Yr oedd cyntedd y porth gyferbyn â'r deml.

10. Y tu mewn i borth y dwyrain yr oedd tair o ystafelloedd ochr o'r ddeutu; yr un oedd mesuriadau'r tair, ac yr oedd y pileri ar bob ochr o'r un mesuriadau.

11. Yna mesurodd led agoriad y porth; yr oedd yn ddeg cufydd, ac yr oedd ei hyd yn dri chufydd ar ddeg.

12. Yr oedd wal cufydd o uchder o flaen yr ystafelloedd, ac yr oedd yr ystafelloedd yn chwe chufydd sgwâr.

13. Yna mesurodd y porth o ben mur cefn un ystafell i ben mur cefn yr un gyferbyn; yr oedd yn bum cufydd ar hugain o'r naill agoriad i'r llall.

14. Mesurodd ar hyd y muriau o amgylch y porth o'r tu mewn, a'u cael yn drigain cufydd.

15. Yr oedd y pellter o agoriad y porth i ben draw'r cyntedd yn hanner can cufydd.

16. Yr oedd ffenestri bychain oddi amgylch yn yr ystafelloedd ac yn y muriau y tu mewn i'r porth, ac felly hefyd yn y cyntedd; yr oedd y ffenestri oddi amgylch yn wynebu i mewn, ac yr oedd y pileri wedi eu haddurno â phalmwydd.

17. Yna aeth â mi i'r cyntedd nesaf allan, a gwelais yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneud o amgylch y cyntedd; yr oedd deg ar hugain o ystafelloedd yn wynebu'r palmant.

18. Yr oedd y palmant wrth ochr y pyrth, a'r un hyd â'r pyrth; hwn oedd y palmant isaf.

19. Yna mesurodd o'r tu mewn i'r porth isaf at y tu allan i'r cyntedd nesaf i mewn; yr oedd yn gan cufydd ar yr ochr ddwyreiniol ac ar yr ochr ogleddol.

20. Yna mesurodd hyd a lled y porth oedd yn wynebu'r gogledd yn y cyntedd nesaf allan.

21. Yr oedd ei ystafelloedd, tair o'r ddeutu, ei bileri a'i gyntedd yr un mesuriadau â rhai'r porth cyntaf; yr oedd yn hanner can cufydd o hyd ac yn bum cufydd ar hugain o led.

Eseciel 40