Eseciel 39:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Byddaf yn anfon tân ar Magog ac ar y rhai sy'n byw'n ddiogel ar yr arfordir; a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

7. “ ‘Gwnaf fy enw sanctaidd yn wybyddus ymhlith fy mhobl Israel, ac ni adawaf i'm henw sanctaidd gael ei halogi mwyach; a bydd y cenhedloedd yn gwybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw Sanct Israel.

8. Y mae'n dod! Bydd yn digwydd, medd yr Arglwydd DDUW. Dyma'r diwrnod y dywedais amdano!

9. “ ‘Yna, bydd y rhai sy'n byw yn ninasoedd Israel yn mynd allan ac yn gwneud tân o'r arfau ac yn eu llosgi—y tarianau bach a mawr, y bwâu a'r saethau, y pastynau a'r gwaywffyn; byddant yn gwneud tân ohonynt am saith mlynedd.

Eseciel 39