Eseciel 35:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn Mynydd Seir; proffwyda yn ei erbyn

3. a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele fi yn dy erbyn, Fynydd Seir; estynnaf fy llaw yn dy erbyn, a'th wneud yn ddiffeithwch anial.

4. Gwnaf dy ddinasoedd yn adfeilion a byddi dithau'n ddiffaith; yna byddi'n gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.

5. Oherwydd iti goleddu hen elyniaeth a darostwng pobl Israel i'r cleddyf yn nydd eu trallod, yn nydd eu cosb derfynol,

Eseciel 35