17. “ ‘Amdanoch chwi, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Wele, byddaf fi'n barnu rhwng y naill ddafad a'r llall, a rhwng hyrddod a bychod.
18. Onid yw'n ddigon ichwi bori ar borfa dda heb ichwi sathru gweddill eich porfa â'ch traed, ac yfed dŵr clir heb ichwi faeddu'r gweddill â'ch traed?
19. A yw'n rhaid i'm praidd fwyta'r hyn a sathrwyd gennych, ac yfed yr hyn a faeddwyd â'ch traed?
20. “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrthynt: Byddaf fi fy hunan yn barnu rhwng defaid bras a defaid tenau.