Eseciel 34:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, proffwyda yn erbyn bugeiliaid Israel; proffwyda, a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae fugeiliaid Israel, nad ydynt yn gofalu ond amdanynt eu hunain! Oni ddylai'r bugeiliaid ofalu am y praidd?

3. Yr ydych yn bwyta'r braster, yn gwisgo'r gwlân, yn lladd y pasgedig, ond nid ydych yn gofalu am y praidd.

Eseciel 34