28. Byddi dithau hefyd ymysg y dienwaededig, wedi dy ddryllio ac yn gorwedd gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf.
29. Y mae Edom gyda'i brenhinoedd a'i holl dywysogion yno; er eu grym y maent gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, yn gorwedd gyda'r dienwaededig, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.
30. Y mae holl dywysogion y gogledd a'r holl Sidoniaid yno; aethant i lawr mewn gwarth gyda'r lladdedigion, er gwaetha'r braw a achosodd eu cryfder; y maent yn gorwedd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.
31. Pan fydd Pharo yn eu gweld bydd yn ymgysuro am ei holl finteioedd—Pharo a'i holl lu, a laddwyd â'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.
32. ‘Oherwydd achosodd fraw trwy holl dir y byw, ac fe'i rhoir i orwedd, ef a'i holl finteioedd, ymysg y dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf,’ medd yr Arglwydd DDUW.”