Eseciel 32:26-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Y mae Mesech a Tubal yno, a'u holl luoedd o amgylch eu beddau,y maent i gyd yn ddienwaededig, wedi eu lladd â'r cleddyf,am iddynt achosi braw yn nhir y byw.

27. Onid ydynt yn gorwedd gyda'r rhyfelwyr a syrthiodd yn ddienwaededig,a mynd i lawr i Sheol gyda'u harfau rhyfel,a rhoi eu harfau dan eu pennau?Daeth cosb eu troseddau ar eu hesgyrn,oherwydd bod braw ar y cryfion hyn trwy dir y byw.

28. Byddi dithau hefyd ymysg y dienwaededig, wedi dy ddryllio ac yn gorwedd gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf.

Eseciel 32