Eseciel 31:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Gwneuthum i'r cenhedloedd grynu gan sŵn ei chwymp, pan ddygais hi i lawr i Sheol gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; felly cysurir yn y tir isod holl goed Eden sy'n cael eu dyfrhau, y rhai gorau a mwyaf dewisol yn Lebanon.

17. Aethant hwythau hefyd gyda hi i lawr i Sheol at y rhai a laddwyd â'r cleddyf; gwasgarwyd y rhai oedd yn byw yn ei chysgod ymhlith y cenhedloedd.

18. Prun o goed Eden sy'n debyg i ti mewn gogoniant a mawredd? Ond fe'th ddygir dithau hefyd gyda choed Eden i'r tir isod, a byddi'n gorwedd gyda'r dienwaededig a laddwyd â'r cleddyf. Dyna Pharo a'i holl finteioedd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

Eseciel 31