Eseciel 30:8-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,pan rof dân ar yr Aifft,a phan ddryllir ei holl gynorthwywyr.

9. Y diwrnod hwnnw fe â negeswyr allan mewn llongau oddi wrthyf i ddychryn Ethiopia ddiofal, a daw gwewyr arnynt pan syrth yr Aifft; yn wir y mae'n dod.

10. “ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhof ddiwedd ar finteioedd yr Aifft trwy law Nebuchadnesar brenin Babilon.

11. Dygir ef, a'i fyddin gydag ef, y greulonaf o'r cenhedloedd, i mewn i ddifetha'r wlad; tynnant eu cleddyfau yn erbyn yr Aifft a llenwi'r wlad â lladdedigion.

12. Sychaf yr afonydd hefyd, a gwerthu'r wlad i rai drwg; trwy ddwylo estroniaid anrheithiaf y wlad a phopeth sydd ynddi. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.

Eseciel 30