Eseciel 30:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Cryfhaf freichiau brenin Babilon a rhoi fy nghleddyf yn ei law, ond torraf freichiau Pharo, a bydd yn griddfan o'i flaen fel un wedi ei glwyfo i farwolaeth.

25. Atgyfnerthaf freichiau brenin Babilon, ond bydd breichiau Pharo'n llipa. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan rof fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac yntau'n ei ysgwyd yn erbyn gwlad yr Aifft.

26. Gwasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd a'u chwalu trwy'r gwledydd, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Eseciel 30