Eseciel 30:21-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. “Fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft, ond ni rwymwyd hi i'w gwella, na'i rhoi mewn rhwymyn i'w chryfhau i ddal y cleddyf.

22. Felly fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Yr wyf yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a thorraf ei freichiau, yr un iach a'r un sydd wedi ei thorri, a gwneud i'r cleddyf syrthio o'i law.

23. Gwasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd a'u chwalu trwy'r gwledydd.

Eseciel 30