Eseciel 30:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Rhof dân ar yr Aifft, a bydd Sin mewn gwewyr mawr; rhwygir Thebes a bydd Noff mewn cyfyngder yn ddyddiol.

17. Fe syrth gwŷr ifainc On a Pibeseth trwy'r cleddyf, a dygir y merched i gaethglud.

18. Bydd y dydd yn dywyllwch yn Tahpanhes, pan dorraf yno iau yr Aifft a dod â'i grym balch i ben; fe'i gorchuddir â chwmwl, a dygir ei merched i gaethglud.

19. Gweithredaf farn ar yr Aifft, a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

20. Ar y seithfed dydd o'r mis cyntaf yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

21. “Fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft, ond ni rwymwyd hi i'w gwella, na'i rhoi mewn rhwymyn i'w chryfhau i ddal y cleddyf.

Eseciel 30