Eseciel 3:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yna daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a llefarodd wrthyf gan ddweud, “Dos a chau arnat dy hun yn dy dŷ.

25. Fe roddir rhwymau amdanat ti, fab dyn, a'th glymu â hwy fel na elli fynd allan ymysg dy bobl.

26. Gwnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a byddi'n fud, fel na elli eu ceryddu, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

27. Ond pan lefaraf fi wrthyt, fe agoraf dy enau, ac fe ddywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.’ Bydded i'r sawl sy'n gwrando arnat wrando, ac i'r sawl sy'n gwrthod wrthod; oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

Eseciel 3