Eseciel 3:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, bwyta'r hyn sydd o'th flaen; bwyta'r sgrôl hon, a dos a llefara wrth dŷ Israel.”

2. Agorais fy ngheg, a rhoddodd imi'r sgrôl i'w bwyta,

3. a dweud wrthyf, “Fab dyn, bwyda dy hun a llanw dy fol â'r sgrôl hon yr wyf yn ei rhoi iti.” Bwyteais, ac yr oedd cyn felysed â mêl yn fy ngenau.

4. Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, dos yn awr at dŷ Israel a llefara fy ngeiriau wrthynt.

5. Nid at bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd y'th anfonir, ond at dŷ Israel.

6. Na, nid at lawer o bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd, a thithau heb ddeall eu geiriau; yn wir, pe bawn wedi dy anfon atynt hwy, byddent yn gwrando arnat.

7. Ond nid yw tŷ Israel yn fodlon gwrando arnat, am nad ydynt yn fodlon gwrando arnaf fi, oherwydd y mae tŷ Israel i gyd yn wynebgaled ac yn ystyfnig.

8. Yn awr, fe'th wnaf mor wynebgaled ac ystyfnig â hwythau.

9. Gwnaf dy dalcen fel diemwnt, yn galetach na challestr; paid â'u hofni nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.”

10. Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, gwrando ar yr holl eiriau yr wyf yn eu llefaru wrthyt, a derbyn hwy i'th galon.

11. Dos yn awr at dy bobl sydd yn y gaethglud, a llefara wrthynt a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW’, p'run bynnag a wrandawant ai peidio.”

12. Cododd yr ysbryd fi, a chlywais o'r tu ôl imi sŵn tymestl fawr: “Bendigedig yw gogoniant yr ARGLWYDD yn ei le.”

13. Clywais sŵn adenydd y creaduriaid yn cyffwrdd â'i gilydd, a sŵn yr olwynion wrth eu hochr, a sain tymestl fawr.

14. Cododd yr ysbryd fi a'm cario ymaith; ac yr oeddwn yn mynd yn chwerw yng ngwres fy ysbryd, a llaw yr ARGLWYDD yn drwm arnaf.

15. Deuthum i Tel-abib at y caethgludion oedd wedi ymsefydlu wrth afon Chebar, ac aros lle'r oeddent hwy yn byw; arhosais yno yn eu mysg wedi fy syfrdanu am saith diwrnod.

16. Ar ddiwedd y saith diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud:

17. “Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf.

18. Os dywedaf wrth y drygionus, ‘Byddi'n sicr o farw’, a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y drygionus hwnnw farw am ei gamwedd, ond byddaf yn dy ddal di yn gyfrifol am ei waed.

19. Ond os byddi wedi rhybuddio'r drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni ac o'i ffordd ddrygionus, bydd yn marw am ei gamwedd, ond byddi di wedi dy arbed dy hunan.

Eseciel 3