1. Ar y deuddegfed dydd o'r degfed mis yn y ddegfed flwyddyn, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
2. “Fab dyn, tro dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef ac yn erbyn yr Aifft gyfan.
3. Llefara a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr wyf yn dy erbyn, O Pharo, brenin yr Aifft,y ddraig fawr sy'n ymlusgo yng nghanol ei hafonydd,ac yn dweud, “Myfi biau'r Neil, myfi a'i gwnaeth.”
4. Rhof fachau yn dy safn,a gwneud i bysgod dy afonydd lynu wrth gen dy groen;tynnaf di i fyny o ganol dy afonyddgyda'u holl bysgod yn glynu wrth gen dy groen.