Eseciel 28:4-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Trwy dy ddoethineb a'th ddeall enillaist iti gyfoeth,a chael aur ac arian i'th ystordai.

5. Trwy dy fedr mewn masnach cynyddaist dy gyfoeth,ac aeth dy galon i ymfalchïo ynddo.’

6. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:‘Oherwydd iti dybio dy fod fel duw,

7. fe ddygaf estroniaid yn dy erbyn,y fwyaf didostur o'r cenhedloedd;tynnant eu cleddyfau yn erbyn gwychder dy ddoethineb,a thrywanu d'ogoniant.

8. Bwriant di i lawr i'r pwll,a byddi farw o'th glwyfauyn nyfnderoedd y môr.

9. A ddywedi, “Duw wyf fi,”yng ngŵydd y rhai sy'n dy ladd?Dyn wyt, ac nid duw,yn nwylo'r rhai sy'n dy drywanu.

10. Byddi'n profi marwolaeth y dienwaededigtrwy ddwylo estroniaid.Myfi a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

11. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

12. “Fab dyn, cod alarnad am frenin Tyrus a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr oeddit yn esiampl o berffeithrwydd,yn llawn doethineb, a pherffaith dy brydferthwch.

13. Yr oeddit yn Eden, gardd Duw,a phob carreg werthfawr yn d'addurno—rhuddem, topas ac emrallt,eurfaen, onyx a iasbis,saffir, glasfaen a beryl,ac yr oedd dy fframiau a'th gerfiadau i gyd yn aur;ar ddydd dy eni y paratowyd hwy.

14. Fe'th osodais gyda cherwb gwarcheidiol wedi ei eneinio;yr oeddit ar fynydd sanctaidd Duw,ac yn cerdded ymysg y cerrig tanllyd.

15. Yr oeddit yn berffaith yn dy ffyrdd o ddydd dy eni,nes darganfod drygioni ynot.

16. Fel yr amlhaodd dy fasnach fe'th lanwyd â thrais,ac fe bechaist.Felly fe'th fwriais allan fel peth aflan o fynydd Duw,ac esgymunodd y cerwb gwarcheidiol dio fysg y cerrig tanllyd.

17. Ymfalchïodd dy galon yn dy brydferthwch,a halogaist dy ddoethineb er mwyn d'ogoniant;lluchiais di i'r llawr,a'th adael i'r brenhinoedd edrych arnat.

Eseciel 28