Eseciel 28:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. yn ddoethach yn wir na Daniel,heb yr un gyfrinach yn guddiedig oddi wrthyt.

4. Trwy dy ddoethineb a'th ddeall enillaist iti gyfoeth,a chael aur ac arian i'th ystordai.

5. Trwy dy fedr mewn masnach cynyddaist dy gyfoeth,ac aeth dy galon i ymfalchïo ynddo.’

6. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:‘Oherwydd iti dybio dy fod fel duw,

7. fe ddygaf estroniaid yn dy erbyn,y fwyaf didostur o'r cenhedloedd;tynnant eu cleddyfau yn erbyn gwychder dy ddoethineb,a thrywanu d'ogoniant.

Eseciel 28