Eseciel 28:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. “Ni fydd gan dŷ Israel mwyach fieri i'w pigo na drain i'w poeni ymysg yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.

25. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Pan gasglaf dŷ Israel o fysg y bobloedd lle gwasgarwyd hwy, ac amlygu fy sancteiddrwydd ynddynt yng ngŵydd y cenhedloedd, cânt fyw yn eu tir eu hunain, a roddais i'm gwas Jacob.

26. Byddant yn byw'n ddiogel yno, yn codi tai ac yn plannu gwinllannoedd; byddant yn byw'n ddiogel pan fyddaf fi'n gweithredu barn ar yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.’ ”

Eseciel 28