16. Fel yr amlhaodd dy fasnach fe'th lanwyd â thrais,ac fe bechaist.Felly fe'th fwriais allan fel peth aflan o fynydd Duw,ac esgymunodd y cerwb gwarcheidiol dio fysg y cerrig tanllyd.
17. Ymfalchïodd dy galon yn dy brydferthwch,a halogaist dy ddoethineb er mwyn d'ogoniant;lluchiais di i'r llawr,a'th adael i'r brenhinoedd edrych arnat.
18. Trwy dy droseddau aml, ac anghyfiawnder dy fasnach,fe halogaist dy gysegrleoedd;felly gwneuthum i dân ddod allan ohonot a'th ysu,a'th wneud yn lludw ar y ddaear yng ngŵydd pawb oedd yn edrych.
19. Y mae pob un ymhlith y bobloedd sy'n d'adnabod wedi ei syfrdanu;aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.’ ”
20. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
21. “Fab dyn, tro dy wyneb tua Sidon a phroffwyda yn ei herbyn,
22. a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr wyf yn dy erbyn, O Sidon,ac amlygaf fy ngogoniant yn dy ganol.Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,pan weithredaf fy nghosb arniac amlygu fy sancteiddrwydd ynddi.
23. Anfonaf bla iddi, a thywallt gwaed ar ei heolydd;syrth y lladdedigion o'i mewn o achos y cleddyf sydd o'i hamgylch.Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’
24. “Ni fydd gan dŷ Israel mwyach fieri i'w pigo na drain i'w poeni ymysg yr holl gymdogion a fu'n eu dilorni. Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r Arglwydd DDUW.