Eseciel 28:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Fel yr amlhaodd dy fasnach fe'th lanwyd â thrais,ac fe bechaist.Felly fe'th fwriais allan fel peth aflan o fynydd Duw,ac esgymunodd y cerwb gwarcheidiol dio fysg y cerrig tanllyd.

17. Ymfalchïodd dy galon yn dy brydferthwch,a halogaist dy ddoethineb er mwyn d'ogoniant;lluchiais di i'r llawr,a'th adael i'r brenhinoedd edrych arnat.

18. Trwy dy droseddau aml, ac anghyfiawnder dy fasnach,fe halogaist dy gysegrleoedd;felly gwneuthum i dân ddod allan ohonot a'th ysu,a'th wneud yn lludw ar y ddaear yng ngŵydd pawb oedd yn edrych.

19. Y mae pob un ymhlith y bobloedd sy'n d'adnabod wedi ei syfrdanu;aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.’ ”

20. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

Eseciel 28