Eseciel 28:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, dywed wrth lywodraethwr Tyrus, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Ym malchder dy galon fe ddywedaist,“Yr wyf yn dduw,ac yn eistedd ar orsedd y duwiauyng nghanol y môr.”Ond dyn wyt, ac nid duw,er iti dybio dy fod fel duw—

3. yn ddoethach yn wir na Daniel,heb yr un gyfrinach yn guddiedig oddi wrthyt.

4. Trwy dy ddoethineb a'th ddeall enillaist iti gyfoeth,a chael aur ac arian i'th ystordai.

Eseciel 28