Eseciel 27:31-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Eilliant eu pennau o'th achos, a gwisgo sachliain;wylant yn chwerw amdanat mewn galar trist.

32. Yn eu cwynfan a'u galar codant alarnad amdanat:“Pwy erioed a dawelwyd fel Tyrus yn nghanol y môr?

33. Pan âi dy nwyddau allan ar y moroedd,yr oeddit yn diwallu llawer o genhedloedd;trwy dy gyfoeth mawr a'th nwyddaugwnaethost frenhinoedd y ddaear yn gyfoethog.

34. Ond yn awr yr wyt wedi dy ddryllio gan y môryn nyfnder y dyfroedd;aeth dy nwyddau a'th holl fintaii lawr i'th ganlyn.

35. Brawychwyd holl drigolion yr ynysoedd o'th achos;y mae eu brenhinoedd yn crynu gan ofn,a phryder ar eu hwynebau.

36. Y mae marsiandïwyr y cenhedloedd wedi eu syfrdanu o'th blegid;aethost yn ddychryn, ac ni cheir mohonot mwyach.” ’ ”

Eseciel 27