Eseciel 27:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Dywed wrth Tyrus sydd wrth fynedfa'r môr, marsiandwr y bobloedd ar lawer o ynysoedd, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Yr wyt ti, O Tyrus, yn dweud,“Yr wyf fi'n berffaith mewn prydferthwch.”

4. Y mae dy derfynau yng nghanol y moroedd;gwnaeth dy adeiladwyr dy brydferthwch yn berffaith.

5. Gwnaethant dy holl waith coed o binwydd Senir,a chymryd cedrwydd Lebanon i wneud hwylbren iti.

6. Gwnaethant dy rwyfau o dderw Basan,a'th fwrdd o binwydd goror Chittim,wedi ei addurno ag ifori.

7. Lliain wedi ei frodio o'r Aifft oedd dy hwyliau,ac yn gwneud baner iti;yr oedd dy gysgodlenni yn las a phorfforo ororau Elisa.

Eseciel 27