Eseciel 26:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Yna bydd holl dywysogion y môr yn disgyn oddi ar eu gorseddau, yn tynnu eu mentyll ac yn diosg eu gwisgoedd o frodwaith. Byddant wedi eu gwisgo â dychryn, yn eistedd ar lawr ac yn crynu bob eiliad, ac wedi eu brawychu o'th achos.

17. Yna, fe godant alarnad a dweud amdanat,“O, fel y dinistriwyd di, y ddinas enwoga fu'n gartref i forwyr!Buost yn rymus ar y moroedd,ti a'th drigolion,a gosodaist dy arswydar dy holl drigolion.

18. Yn awr y mae'r ynysoedd yn crynuar ddydd dy gwymp;y mae'r ynysoedd yn y môr yn arswydowrth i ti syrthio.” ’

Eseciel 26