Eseciel 26:13-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Rhof ddiwedd ar sŵn dy ganiadau, ac ni chlywir sain dy delynau mwyach.

14. Gwnaf di'n graig noeth, ac fe ddoi'n lle i daenu rhwydau; nid ailadeiledir di mwyach, oherwydd myfi'r ARGLWYDD a lefarodd,’ medd yr Arglwydd DDUW.

15. “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth Tyrus: ‘Oni fydd yr ynysoedd yn crynu gan sŵn dy gwymp, pan fydd yr archolledig yn cwynfan a phan fydd rhai yn lladd o'th fewn?

16. Yna bydd holl dywysogion y môr yn disgyn oddi ar eu gorseddau, yn tynnu eu mentyll ac yn diosg eu gwisgoedd o frodwaith. Byddant wedi eu gwisgo â dychryn, yn eistedd ar lawr ac yn crynu bob eiliad, ac wedi eu brawychu o'th achos.

17. Yna, fe godant alarnad a dweud amdanat,“O, fel y dinistriwyd di, y ddinas enwoga fu'n gartref i forwyr!Buost yn rymus ar y moroedd,ti a'th drigolion,a gosodaist dy arswydar dy holl drigolion.

18. Yn awr y mae'r ynysoedd yn crynuar ddydd dy gwymp;y mae'r ynysoedd yn y môr yn arswydowrth i ti syrthio.” ’

19. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: ‘Pan wnaf di'n ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd sydd heb drigolion, a phan ddygaf y dyfnfor drosot, a'r dyfroedd mawrion yn dy orchuddio,

20. yna fe'th fwriaf i lawr gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll at bobl o'r oesoedd gynt. Gwnaf iti fyw yn y tir isod, fel mewn hen adfeilion, gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll; ac ni ddychweli i gymryd dy le yn nhir y rhai byw.

21. Rhof iti ddiwedd ofnadwy, ac ni fyddi mwyach; fe'th geisir, ond ni cheir mohonot byth mwy,’ medd yr Arglwydd DDUW.”

Eseciel 26