Eseciel 24:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. a chymer dy ddewis o'r praidd.Gosod y coed dano,cod ef i'r berw,a berwi'r esgyrn ynddo.

6. “ ‘Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Gwae'r ddinas waedlyd, y crochan y mae rhwd arno, rhwd nad â allan ohono! Gwagiwch ef bob yn ddarn, heb fwrw coelbren am yr un ohonynt.

7. Yr oedd y gwaed yng nghanol y ddinas wedi ei dywallt ar y graig noeth, ac nid ar y ddaear i'r llwch ei guddio.

Eseciel 24