Eseciel 24:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Yna dywedodd y bobl wrthyf, “Oni ddywedi beth sydd a wnelo'r pethau hyn a wnei â ni?”

20. Yna dywedais wrthynt, “Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

21. ‘Dywed wrth dŷ Israel, “Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yr wyf yn mynd i halogi fy nghysegr, yr hwn yr wyt yn ymfalchïo yn ei gadernid, ac sydd mor ddymunol a hoff yn dy olwg. Bydd y meibion a'r merched a adawyd yn syrthio trwy'r cleddyf.

22. Fe wnewch chwi fel y gwneuthum i; ni fyddwch yn gorchuddio eich genau nac yn bwyta bwyd galar.

Eseciel 24