Eseciel 24:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar y degfed dydd o'r degfed mis yn y nawfed flwyddyn daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fab dyn, gwna gofnod o enw'r dydd hwn, ie, yr union ddydd hwn, oherwydd heddiw y gosododd brenin Babilon warchae ar Jerwsalem.

3. Llefara ddameg wrth y tŷ gwrthryfelgar hwn, a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:Gosod y crochan ar y tân,ei osod a rhoi dŵr ynddo.

4. Casgl ddarnau iddo—y darnau dewisol, y goes a'r ysgwydd;llanw ef â'r gorau o'r esgyrn,

Eseciel 24