Eseciel 23:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Pan welodd hwy, fe'u chwantodd ac anfon negeswyr amdanynt i Caldea.

17. Daeth y Babiloniaid ati i wely cariad a'i halogi â'u puteindra; wedi iddi gael ei halogi ganddynt, fe droes ymaith mewn atgasedd oddi wrthynt.

18. Pan wnaeth ei phuteindra'n amlwg a datguddio'i noethni, fe drois innau oddi wrthi, fel yr oeddwn wedi troi mewn atgasedd oddi wrth ei chwaer.

19. Ond fe wnaeth ragor o buteindra wrth iddi gofio am ddyddiau ei hieuenctid, pan oedd yn butain yng ngwlad yr Aifft.

20. Yno yr oedd yn chwantu ei chariadon, a oedd â'u haelodau fel rhai asynnod ac yn bwrw eu had fel stalwyni.

21. Felly yr oeddit yn ail-fyw anlladrwydd dy ieuenctid, pan wasgwyd dy dethau a chwarae â'th fronnau ifainc yn yr Aifft.

Eseciel 23