Eseciel 22:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

18. “Fab dyn, fe aeth tŷ Israel yn amhur gennyf; y maent i gyd yn gymysg o bres, alcam, haearn a phlwm mewn ffwrnais; arian amhur ydynt.

19. Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd i chwi oll fynd yn amhur, fe'ch casglaf ynghyd i Jerwsalem.

20. Fel y cesglir arian, pres, haearn, plwm ac alcam i ffwrnais â thân dani i'w toddi, felly y casglaf finnau chwi yn fy nicter a'm llid, a'ch rhoi yno a'ch toddi.

21. Fe'ch casglaf, a chwythu arnoch â'm dig tanllyd, ac fe'ch toddir ynddi.

Eseciel 22