Eseciel 21:29-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Er bod gweledigaethau gau amdanat ac argoelion twyllodrus ynglŷn â thi, fe'th osodir ar yddfau'r drygionus sydd i'w lladd, sef y rhai y daeth eu dydd yn amser y gosb derfynol.

30. Yna, dychweler ef i'w wain. Yn y lle y crëwyd di, yng ngwlad dy gynefin, y barnaf di.

31. Tywalltaf fy llid arnat a chwythu fy nig tanllyd drosot; rhoddaf di yn nwylo dynion creulon, dynion medrus i ddinistrio.

32. Byddi'n gynnud i dân, bydd dy waed trwy'r tir, ac ni chofir amdanat. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.’ ”

Eseciel 21