Eseciel 2:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. ac yn dweud wrthyf, “Fab dyn, saf ar dy draed, ac fe siaradaf â thi.”

2. Ac fel yr oedd yn siarad â mi, daeth yr ysbryd arnaf a'm codi ar fy nhraed, a gwrandewais arno'n siarad â mi.

3. Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, yr wyf yn dy anfon at blant Israel, at y genedl o wrthryfelwyr sydd wedi gwrthryfela yn fy erbyn; y maent hwy a'u hynafiaid wedi troseddu yn fy erbyn hyd y dydd heddiw.

4. At blant wynebgaled ac ystyfnig yr wyf yn dy anfon, ac fe ddywedi wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW.’

5. Prun bynnag a wrandawant ai peidio—oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt—fe fyddant yn gwybod fod proffwyd yn eu mysg.

Eseciel 2