Eseciel 19:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Pan welodd hi ei siomia dinistrio ei gobaith,cymerodd un arall o'i chenawona gwneud llew ifanc ohono.

6. Yr oedd yn prowla ymhlith y llewod,a thyfodd yn llew ifanc;dysgodd larpio ysglyfaetha bwyta pobl.

7. Tynnodd i lawr eu ceyrydd,a dinistrio eu dinasoedd;daeth ofn ar y wlad a phopeth ynddioherwydd sŵn ei ruo.

8. Yna daeth y cenhedloedd yn ei erbyno'r taleithiau o amgylch;taenasant eu rhwyd drosto,ac fe'i daliwyd yn eu pwll.

9. Tynasant ef i gawell â bachau,a mynd ag ef at frenin Babilon;rhoddwyd ef mewn carchar,fel na chlywyd ei sŵn mwyachar fynyddoedd Israel.

10. “ ‘Yr oedd dy fam fel gwinwydden mewn gwinllan,wedi ei phlannu yn ymyl dyfroedd;yr oedd yn ffrwythlon a brigogam fod digon o ddŵr.

11. Yr oedd ei changhennau yn gryfion,yn addas i deyrnwialen llywodraethwyr.Tyfodd yn uchel iawn,uwchlaw'r prysgwydd;yr oedd yn amlwg oherwydd ei huchdera nifer ei changau.

12. Ond fe'i diwreiddiwyd mewn dicter,fe'i bwriwyd hi i'r llawr;deifiodd gwynt y dwyrain hi,dinoethwyd hi o'i ffrwythau;gwywodd ei changau cryfion,ac yswyd hwy gan dân.

Eseciel 19