Eseciel 16:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Golchais di mewn dŵr a glanhau'r gwaed oddi arnat, a'th eneinio ag olew.

10. Gwisgais di mewn brodwaith a rhoi iti sandalau lledr; rhoddais liain main amdanat a'th orchuddio â sidan.

11. Addurnais di â thlysau, a rhoi breichledau am dy freichiau a chadwyn am dy wddf;

12. rhoddais fodrwy yn dy drwyn, tlysau ar dy glustiau a choron hardd ar dy ben.

Eseciel 16